Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA4) -07-15

 

CLA493 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2015

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi Erthygl 14(5)-(9) o Gyfarwyddeb 2012/27/EU ar effeithlonrwydd ynni, sy'n anelu at hyrwyddo effeithlonrwydd mewn systemau gwresogi ac oeri. Mae Erthyglau 14(5) - (9) yn pennu bod angen cynnal Asesiad Cost a Budd yn archwilio hyfywedd gweithredu mewn modd cyd-gynhyrchu (cyfuniad o wres a phŵer) pan fydd rhai gosodiadau mawr, newydd, diwydiannol yn cael eu cynllunio, neu pan fydd gosodiadau o'r fath yn cael eu hadnewyddu'n sylweddol. Pan fydd yr Asesiad yn canfod bod cyd-gynhyrchu yn ymarferol, mae'n rhaid i'r gosodiad weithredu yn y modd hwnnw. 

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.   Ni chafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud yn ddwyieithog. Mae paragraff 4 o'r Memorandwm Esboniadol yn datgan nad oedd yn bosibl i'r Rheoliadau gael eu gwneud yn ddwyieithog gan eu bod yn rheoliadau cyfansawdd sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae'r Rheoliadau yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU ac, felly, dywed Llywodraeth Cymru nad yw wedi bod yn bosibl eu gwneud yn ddwyieithog. Penderfynwyd gwneud y Rheoliadau hyn ar sail cyfansawdd oherwydd y gyfundrefn drwyddedu amgylcheddol sy'n bodoli eisoes yng Nghymru a Lloegr. Mae'n werth nodi bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi drafftio eu rheoliadau ar wahân.  [Rheol Sefydlog 21.2 (ix) - ni wnaed yn ddwyieithog]

 

 

2.   Yn wahanol i'r arfer, cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod gyda nifer o wallau sy'n hysbys yn y rheoliadau. Canfuwyd llawer o wallau yn yr offeryn statudol drafft fel y'i gosodwyd gerbron y Senedd ar 17 Rhagfyr 2014. [Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol.] 

 

3   Mae paragraff 10 o'r Memorandwm Esboniadol yn crynhoi'r gwallau sy'n hysbys. Gan ystyried hyd cymharol fyr y Rheoliadau hyn mae nifer y gwallau yn sylweddol. Mae paragraff 10 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

 

"10.   The errors that it is proposed will be corrected prior to the making of the statutory instrument are as follows:

 

a)       In regulation 5(3), in the new sub-paragraph (1A) to be inserted in paragraph 1 of Schedule 8 to the principal Regulations (as defined in regulation 1(3) of the draft regulations), the reference to “paragraph 2 of Section 1.1” should be a reference to “paragraph 1A of Section 1.1”.  This is clearly an error as there is no paragraph 2 of Section 1.1 of Part 2 of Schedule 1 to the principal Regulations.  This paragraph should refer to the new paragraph 1A as inserted by regulation 4(2), as referenced by regulation 5(2) of the draft regulations.

 

b)       In regulation 6, which inserts the new Schedule 8A:

 

i.        The title to regulation 6 reads “Energy Efficiency Directive”, and the title to the new Schedule 8A reads “Energy Efficiency Directive: promotion of efficiency in heat and cooling”.  They are clearly in error as they do not accord with the title given to Schedule 8A in the operative provision inserted (by regulation 3 of these regulations) into regulation 35 of the principal regulations.  It is proposed to correct these provisions so that Schedule 8A is consistently titled.

 

ii.       in paragraph 1(1), in paragraph (b) of the definition of “installation”, reference to “small waste incineration operation” should refer to “small waste incineration plant”.  This is clearly an error as the defined term in the principal Regulations is “small waste incineration plant” – see regulation 2(1) of the principal Regulations.

 

iii.      in paragraph 1(2) (c) in the reference to the interpretation of installation, the words “within the meaning of Part 1 of Schedule 1” should be removed.  This is clearly an error as in the previous paragraph 1(1), there is a definition of “installation” which is not the same as the definition of “installation” within the meaning of Part 1 of Schedule 1 to the principal Regulations due to the inclusion in the former of all small waste incineration plants (the latter includes only small waste incineration plants that are also Part B activities in Section 5.1 of Part 2 of Schedule 1 to the principal Regulations).  Paragraph 1(2) (d) also requires this wider definition of “installation”.

 

iv.      In the title to the table in paragraph 11, the reference to “Radios” should read “Radius”.  This is clearly a typographical error.”

 

4.   Cododd y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol bwyntiau pellach a gofynnwyd am eglurhâd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae'r rhain wedi cael eu datrys ers hynny.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

5.   Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi Erthygl 14(5)-(9) o Gyfarwyddeb 2012/27/EU ar effeithlonrwydd ynni. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud y Rheoliadau hyn oedd 5 Mehefin 2014. Mae'r Rheoliadau hyn dros naw mis yn hwyr ac mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o wynebu achos o dorri rheolau'r UE. Mae paragraff 6 o'r Memorandwm Esboniadol yn datgan “delays to finalising the regulations following consultation have resulted in this deadline being missed."  [Rheol Sefydlog 21.3(iv) – rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol]

 

6.   Er gwaethaf y diffygion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 uchod, ac ym mharagraffau 9 a 10 o'r Memorandwm Esboniadol, penderfynwyd peidio â thynnu'r rheoliadau hyn yn ôl a'u hailosod, oherwydd y diffyg amser Seneddol sy'n weddill cyn gohiriad. O gofio bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gryn amser ar ôl dyddiad cau'r trosi ym mis Mehefin 2014 ni fyddai oedi pellach wedi bod yn ddefnyddiol. Yn ogystal, oherwydd mai Rheoliadau cyfansawdd ydynt, ni all Llywodraeth Cymru osod rheoliadau diwygiedig gyda chywiriadau oherwydd mae'n rhaid i'r un fersiwn gael ei osod ar gyfer dadl yn y Cynulliad fel y gosodwyd yn y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud cywiriadau ar ôl y dadleuon perthnasol. Rydym yn ystyried hyn yn gwbl anfoddhaol oherwydd y bwriedir gwneud Rheoliadau sy'n wahanol iawn i'r rhai a gymeradwywyd.  Dylai'r Rheoliadau gael eu gwneud fel y'u cymeradwywyd.  Rydym yn derbyn, er gwaethaf y diffygion, y byddai hynny'n well nag oedi pellach wrth weithredu rhwymedigaethau cyfraith yr UE. [Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mawrth 2015